Cwrdd â Thîm Yr Ardd

Cofrestrodd Yr Ardd Gardd Gymunedol fel CIC ym mis Chwefror 2021. Mae gennym fwrdd o Gyfarwyddwyr Gwirfoddol sy’n angerddol am greu gardd gymunedol groesawgar sy’n dod â phobl ynghyd, yn cefnogi llesiant, ac yn dathlu’r amgylchedd naturiol, ac sy’n gweithredu er budd y Gymuned. Os ydych chi’n rhannu’r un angerdd, beth am siarad â ni am ymuno â’r Bwrdd – gadewch i ni gadw Yr Ardd yn Ffynnu!

Ein Cyfarwyddwyr

Llinos Hallgarth

Mae Llinos wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn rhan o brosiect Yr Ardd o'r cychwyn cyntaf. Prosiect cyffrous lle mae ei bwrpas yw creu ardal gymunedol groesawgar a diogel, lle gall pobl o bob oed ddod at ei gilydd i dyfu pob math o blanhigion, dysgu amrywiaeth o sgiliau newydd, cymdeithasu yn yr awyr agored wrth hyrwyddo iechyd a lles mewn ffordd gyfannol naturiol iawn yn ardal Llandysul a Phontweli trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ogystal â bod yn diwtor sgiliau busnes rhan-amser i Dysgu Bro a'i chyfranogiad amrywiol mewn waith cymunedol, mae Llinos hefyd yn therapydd cyflenwol gyda 'Clinig Bach y Wlad' ac mae ganddi gymwysterau mewn gwahanol triniaethau. Mae Llinos a'i chwaer Siân wedi bod yn rhedeg y clinig ers dros 12 mlynedd, ac mae ganddyn nhw gred a brwdfrydedd cryf mewn hyrwyddo iechyd a lles mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dros y blynyddoedd maen nhw wedi gweld pa mor bwysig yw'r berthynas rhwng bwyd a maeth ar gyfer iechyd da corfforol a meddyliol y corff o ran salwch, iechyd a lles yn ogystal â chael mynediad at ardaloedd awyr agored diogel i hyrwyddo'r un peth. Nid yw'n bwnc a all eistedd ar ei ben ei hun. Pan fyddwn yn trin corff, rhaid inni gwestiynu beth rydyn ni'n ei roi yn ein corff a sut rydyn ni'n trin y corff yn gyffredinol bob dydd, a sut y gall y berthynas hon ein gwneud ni'n bobl iach, hapus a hyfyw. Gyda'r weledigaeth hon, mae Llinos yn helpu i gynnal sesiynau Cwtsh Natur misol, lle mae ethos gofalu am ein corff, ein meddwl a'n henaid trwy fod yn yr awyr agored mewn natur, nid yn unig yn helpu i feithrin, creu, gwella a thyfu'r planhigion yn Yr Ardd ond yn caniatáu inni wneud yr un peth i ni ein hunain.

Mae Llinos yn edrych ymlaen at ddefnyddio'r rôl hon fel platfform i rannu'r hyn y mae hi eisoes yn ei wybod gydag eraill. Mae hi hefyd eisiau manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy gan y rhai sy'n cymryd rhan, yn enwedig am dyfu a meithrin bwyd a thir, ac o hyn gymhwyso'r hyn y mae'n ei ddysgu mewn ffordd gyfannol i'w bywyd a'i chymuned.


Natalie Owen

Rwy’n Gyfarwyddwr yn yr Ardd gymunedol ym Mhontweli, a chefais fy nghynnwys oherwydd fy niddordeb dwfn mewn dod â phobl ynghyd trwy natur a thyfu. I mi, nid yw Yr Ardd yn ymwneud â phlannu hadau yn unig - mae’n ymwneud â phlannu cysylltiadau, cyfeillgarwch, a chymuned. Mae’r ardd hon yn golygu llawer i mi oherwydd ei bod yn lle mae pawb yn gallu rhannu sgiliau, straeon a bwyd ffres, wrth ofalu am y tir rydym oll yn ei garu. Mae bod yn rhan ohoni yn teimlo fel bod yn rhan o rywbeth arbennig iawn i’n cymuned.


Suzanne Owen

Fy enw i yw Suzanne Owen ac rwyf wedi bod yn rhan o waith gwirfoddol ers llawer o flynyddoedd yn y gwahanol leoedd rwyf wedi byw. Mae’n ychwanegu at fy nghiwed o ‘fywyd a fyw i’r eithaf’.

Mae manteision gwirfoddoli yn hynod werthfawr. Mae’n gyfle i gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau, cynnig help i eraill ac adnabod mwy am y gymuned.
Mae bod yn rhan o Ardd gymunedol Yr Ardd ers imi ymddeol wedi bod yn gyfle amhrisiadwy i rannu fy sgiliau, dysgu mwy am arddio, a chwrdd â phobl o’r un anian mewn amgylchedd awyr agored. Rydyn ni’n chwerthin gyda’n gilydd, yn mwynhau llawer o de a chacen, yn hau llawer o hadau ac yn cynaeafu’r bwyd rydyn ni’n ei rannu â’n gilydd, gan gyflwyno rhan ohono i’r ganolfan deulu yn Llandysul.

Yn ystod cyfnod clo Covid roeddem yn gallu cwrdd, gan gadw pellter yn ddiogel, i sgwrsio a rhannu ein teimladau mewn lle diogel tra oedden ni’n penderfynu sut i sefydlu Yr Ardd ar gyfer y gymuned. Mae’r prosiect wedi bod yn heriol ar adegau. Fe wnaethom wneud cais am arian y Loteri i gyflogi swyddog prosiect amser llawn, i gael offer hanfodol ar gyfer yr ardd, pren ar gyfer y gwelyau codi, a siediau pren i gartrefu cegin, sied offer a polytunnel.

Mae Yr Ardd yn le o rannu i lawer o bobl sydd wedi profi heriau bywyd, ac rydym yn gweithio gyda’n gilydd i helpu pobl i’w goresgyn. Mae garddio bellach yn cael ei gydnabod yn helaeth fel ffordd ryng-genedlaethol o wella llesiant i lawer o unigolion.


Steve Parkin, Cadeirydd


New Volunteer Directors

Rydym bellach yn chwilio am Gyfarwyddwyr Gwirfoddol newydd i helpu arwain a chefnogi ein dyfodol cyffrous. Darllenwch fwy am gadw Yr Ardd yn Ffynnu am ragor o wybodaeth.

Tansgrifiwch i'n cylchlythyr

Tansgrifiwch yma

Rydym yn ddiolchgar i'n holl
Ariannwyr a Chefnogwyr

Funded by CAVO, UK Government, Ceredigion County Council