people planting raised beds in Yr Ardd

Gwirfoddoli yn Yr Ardd

Pam Gwirfoddoli yn Yr Ardd?

Mae Yr Ardd yn ardd gymunedol, wedi’i chreu a’i chynnal gan bobl leol — ac ni fyddai’n bodoli heb gymorth gwirfoddolwyr. Boed gennych awr i’w rhoi bob wythnos, neu os gallwch alw heibio o bryd i’w gilydd, mae eich amser a’ch cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Does dim rhaid i chi fod yn arddwr brwd i gymryd rhan. Mae digon o ffyrdd i helpu — plannu a chwynnu, adeiladu a thrwsio, neu hyd yn oed wneud paned a sgwrsio gydag ymwelwyr. Beth bynnag fo’ch sgiliau neu’ch profiad, mae lle i chi yma.

Rwyf wrth fy modd â’r lle hwn, hyd yn oed mewn tywydd garw mae’r awyr yn goleuo, y coed, y planhigion, y dirwedd, yn bennaf oll, cyfeillgarwch pawb, gallwch eistedd a myfyrio gyda phaned o de a gwneud cymaint neu gyn lleied â chi eisiau. Mae gan bawb brofiad gwahanol, ac maent yn barod i rannu. Os ydych chi eisiau plannu hadau, tyfu llysiau neu dim ond cael sgwrs a dal i fyny, dyma i chi; i'r gymuned, mae'n gweithio!
Kate

Ein nodau yw cynnig:

  • Cyfleoedd i dyfu, cynaeafu a mwynhau ffrwythau a llysiau ffres.
  • Lle croesawgar i gymdeithasu, chwarae, a lliniaru unigrwydd.
  • Amrywiaeth o brofiadau gwirfoddoli i weddu i wahanol ddiddordebau a galluoedd.
  • Datblygu sgiliau i wella cyflogadwyedd a chryfhau gwybodaeth am yr amgylchedd naturiol.
  • Cyfle i ddefnyddio a dathlu’r Gymraeg,gan gysylltu pobl â’r tir a’n gwreiddiau.

Mae gwirfoddoli yn Yr Ardd hefyd yn gyfle i fwynhau’r awyr iach, bod yn agos at natur, a chael ymdeimlad o lonyddwch. Mae llawer o’n gwirfoddolwyr yn dweud ei fod yn dda ar eu cyferlon ac yn rhoi cyfle iddynt arafu. Mae’r ardd yn newid gyda’r tymhorau, a gall bod yn rhan o’r cylch hwnnw fod yn brofiad gwerth chweil a thawelus.

Lle diogel lle nad oes neb yn eich poeni os nad ydych am gael eich poeni. Mae pobl yn garedig ac yn gyfeillgar, mae bod allan yn dda i ni i gyd. Mor falch o fod wedi cael eich cyflwyno i'r prosiect hwn. Mae yna gyrsiau gwych: blodau gwyllt, compostio, barddoniaeth a bwyd. Mae croeso i bawb; mae'n gwneud fy wythnos!
Ellen

Rydym yn cadw pethau’n hyblyg. Dewch pan allwch chi, arhoswch cyhyd ag y mynnwch, a dewiswch y tasgau sy’n gweddu orau i chi. Darperir offer, menig a chanllawiau bob amser — y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw parodrwydd i ymuno.

Os hoffech chi helpu mewn ffordd wahanol, mae gennym hefyd rolau Cyfarwyddwr Gwirfoddol i bobl sydd am gefnogi’r gwaith o redeg a rheoli Yr Ardd. I ddysgu mwy, ewch i’n tudalen Cyfarwyddwr Gwirfoddol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, byddai’n bleser cael clywed gennych. Trwy ymuno â’r tîm, byddwch nid yn unig yn helpu’r ardd i dyfu, ond hefyd yn cryfhau’r gymuned sy’n gwneud Yr Ardd mor arbennig. I wirfoddoli, ac am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost atom ni yrardd@gmail.com.

Os hoffech chi helpu mewn ffordd wahanol, mae gennym hefyd rolau Cyfarwyddwr Gwirfoddol i bobl sydd am gefnogi’r gwaith o redeg a rheoli Yr Ardd. I ddysgu mwy, ewch i’n tudalen Cyfarwyddwr Gwirfoddol.

Gwirfoddolwch gyda ni

I wirfoddoli, ac am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost atom ni yrardd@gmail.com

image of garden trowel and fork, and some leaves. This forms part of Yr Ardd logo

Os hoffech chi helpu mewn ffordd wahanol, mae gennym hefyd rolau Cyfarwyddwr Gwirfoddol i bobl sydd am gefnogi’r gwaith o redeg a rheoli Yr Ardd.
I ddysgu mwy, ewch i’n tudalen Cyfarwyddwr Gwirfoddol.



Tansgrifiwch i'n cylchlythyr

Tansgrifiwch yma

Rydym yn ddiolchgar i'n holl
Ariannwyr a Chefnogwyr

Funded by CAVO, UK Government, Ceredigion County Council