Gwirfoddoli yn Yr Ardd
Pam Gwirfoddoli yn Yr Ardd?
Mae Yr Ardd yn ardd gymunedol, wedi’i chreu a’i chynnal gan bobl leol — ac ni fyddai’n bodoli heb gymorth gwirfoddolwyr. Boed gennych awr i’w rhoi bob wythnos, neu os gallwch alw heibio o bryd i’w gilydd, mae eich amser a’ch cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Does dim rhaid i chi fod yn arddwr brwd i gymryd rhan. Mae digon o ffyrdd i helpu — plannu a chwynnu, adeiladu a thrwsio, neu hyd yn oed wneud paned a sgwrsio gydag ymwelwyr. Beth bynnag fo’ch sgiliau neu’ch profiad, mae lle i chi yma.
Ein nodau yw cynnig:
- Cyfleoedd i dyfu, cynaeafu a mwynhau ffrwythau a llysiau ffres.
- Lle croesawgar i gymdeithasu, chwarae, a lliniaru unigrwydd.
- Amrywiaeth o brofiadau gwirfoddoli i weddu i wahanol ddiddordebau a galluoedd.
- Datblygu sgiliau i wella cyflogadwyedd a chryfhau gwybodaeth am yr amgylchedd naturiol.
- Cyfle i ddefnyddio a dathlu’r Gymraeg,gan gysylltu pobl â’r tir a’n gwreiddiau.
Mae gwirfoddoli yn Yr Ardd hefyd yn gyfle i fwynhau’r awyr iach, bod yn agos at natur, a chael ymdeimlad o lonyddwch. Mae llawer o’n gwirfoddolwyr yn dweud ei fod yn dda ar eu cyferlon ac yn rhoi cyfle iddynt arafu. Mae’r ardd yn newid gyda’r tymhorau, a gall bod yn rhan o’r cylch hwnnw fod yn brofiad gwerth chweil a thawelus.
Rydym yn cadw pethau’n hyblyg. Dewch pan allwch chi, arhoswch cyhyd ag y mynnwch, a dewiswch y tasgau sy’n gweddu orau i chi. Darperir offer, menig a chanllawiau bob amser — y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw parodrwydd i ymuno.
Os hoffech chi helpu mewn ffordd wahanol, mae gennym hefyd rolau Cyfarwyddwr Gwirfoddol i bobl sydd am gefnogi’r gwaith o redeg a rheoli Yr Ardd. I ddysgu mwy, ewch i’n tudalen Cyfarwyddwr Gwirfoddol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, byddai’n bleser cael clywed gennych. Trwy ymuno â’r tîm, byddwch nid yn unig yn helpu’r ardd i dyfu, ond hefyd yn cryfhau’r gymuned sy’n gwneud Yr Ardd mor arbennig. I wirfoddoli, ac am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost atom ni yrardd@gmail.com.
Os hoffech chi helpu mewn ffordd wahanol, mae gennym hefyd rolau Cyfarwyddwr Gwirfoddol i bobl sydd am gefnogi’r gwaith o redeg a rheoli Yr Ardd. I ddysgu mwy, ewch i’n tudalen Cyfarwyddwr Gwirfoddol.






