
Mae Yr Ardd yn ardd gymunedol ym Mhont-Tyweli, ger Llandysul, yn Nyffryn Teifi. Ers 2021, mae wedi tyfu a ffynnu diolch i gefnogaeth pobl leol sy’n credu mewn mynediad at fwyd ffres, cyfleoedd gwirfoddoli, cynaliadwyedd, a’r defnydd o’r Gymraeg ym mywyd bob dydd.
Mae ein gofod awyr agored hygyrch yn lle i dyfu bwyd, dysgu sgiliau newydd, cysylltu â natur, gwneud ffrindiau, a chymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol. P’un a ydych yn arddwr profiadol neu’n chwilfrydig i gymryd rhan, mae Yr Ardd yn cynnig amgylchedd croesawgar lle gall pobl o bob oed a chefndir ddod ynghyd, rhannu gwybodaeth, a helpu i feithrin cymuned gryfach a gwyrddach. Dysgwch fwy am Yr Ardd, archwiliwch ein prosiectau, neu darganfyddwch sut y gallwch gymryd rhan.
Sbiwch ar y calendr digwyddiadau am gyrsiau, digwyddiadau a chyfarfodydd rheolaidd.
Ymunwch â ni bob tra rydym yn hau hadau, paratoi ein gwelyau tyfu, dyfrio... a chael amser da!
Ymunwch â ni bob tra rydym yn hau hadau, paratoi ein gwelyau tyfu, dyfrio... a chael amser da!
Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwyr Gwirfoddol newydd i helpu i arwain a chefnogi ein dyfodol cyffrous. Ai chi yw hwn?





