Dyfodol Gwledig y Loteri Genedlaethol
– Tyfu Ein Cymuned Gyda’n Gilydd

;

Cronfa Gymunedol Community Fund logoDiolch i gymorth y rhaglen Dyfodol Gwledig y Loteri Genedlaethol, mae Yr Ardd wedi gallu troi uchelgais hirsefydlog yn brosiect cymunedol bywiog. Mae’r cyllid wedi ein galluogi i ganolbwyntio amser ac adnoddau ar adeiladu’r seilwaith, cryfhau partneriaethau lleol a chynnig cyfleoedd i bobl o bob oed dyfu, dysgu a bod yn rhan o’r gymuned.

Penodwyd ein Rheolwr Prosiect cyntaf, Elizabeth Riches, ym Mawrth 2023, a bu ei gwaith yn allweddol i ddatblygu trefn ddyddiol Yr Ardd a chyflawni ein gweledigaeth hirdymor. Ers hynny mae’r prosiect wedi tyfu’n gyflym — o drawsnewid y safle i ehangu ein sylfaen gwirfoddolwyr, cynnal cyrsiau am ddim, gweithio’n agos gydag ysgolion a gwella mynediad at gynnyrch ffres lleol.

Dros y ddwy flynedd gyntaf, mae’r rhaglen wedi rhoi hyder, gallu a momentwm inni. Mae wedi ein helpu i greu lle sy’n hardd ac yn ysbrydoledig — gardd ddiogel, groesawgar a chynhwysol sy’n dod â phobl ynghyd.


Mae croeso mawr i chi lawrlwytho'r Adroddiad Diwedd Blwyddyn 1.


Mae croeso mawr i chi lawrlwytho'r Adroddiad Diwedd Blwyddyn 2.

Tansgrifiwch i'n cylchlythyr

Tansgrifiwch yma

Rydym yn ddiolchgar i'n holl
Ariannwyr a Chefnogwyr

Funded by CAVO, UK Government, Ceredigion County Council