Yr Ardd Berlysiau
Mae hi’n fis Mai 2026 ac mae’r Ardd Berlysiau yn Yr Ardd bellach wedi agor yn swyddogol.
Mae’r gofod hyfryd hwn wedi dod yn bosibl diolch i gefnogaeth, gwaith caled a charedigrwydd rhai pobl arbennig iawn — ac hoffem ddiolch o galon i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r gwaith.
Rydym yn arbennig o ddiolchgar i Statkraft am ariannu prynu’r meinciau, y ffynnon ddŵr a’r clawdd ffawydd, sydd wedi helpu i siapio a chyfoethogi’r ardd.
Y cam nesaf fydd plannu coed mewn ardal newydd rydym yn ei galw’n Ardd Goffa — man heddychlon er cof am anwyliaid.












